Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 5 Ebrill 2017
Amser: 09.18 -
12.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3838
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Michelle Brown AC Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC |
Tystion: |
Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Steve Davies, Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS) Huw Foster Evans, Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE) |
Staff y Pwyllgor: |
Jon Antoniazzi (Clerc) Gareth Rogers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Joe Champion (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
View the meeting transcript (PDF 999KB) View as HTML (999KB)
Trafododd y Pwyllgor y papur ar y materion allweddol. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau; nid oedd dim ymddiheuriadau.
O dan Reol Sefydlog 17.24 dywedodd y Cadeirydd fod ei gŵr yn gwneud gwaith gyda Phrifysgol De Cymru sy'n cynnwys addysg gychwynnol i athrawon. Dywedodd Hefin David ei fod yn ddarlithydd cyswllt ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar y cyfleoedd sydd ar gael i gaffael statws athro cymwys tra'n gweithio.
Nodwyd y papurau.
Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Bydd adroddiad yn cael ei osod yn y man.
Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. Byddai papur cwmpasu ar ymchwiliadau posibl yn y dyfodol yn cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.